Swydd Wag
Ein Swydd Wag Pressenol
Swydd Ddisgrifiad
Rôl: Cynorthwydd Rhostio a Chynhyrchu Coffi
Lleoliad: Poblado Coffi, Dolydd a Nantlle
Math o Swydd: Parhaol / Rhan-amser (3 diwrnod yr wythnos 21 awr)
Cyflog: Yn dibynnu ar oedran a phrofiad – Rydym yn talu mwy na'r Cyflog Byw
Yn adrodd i: Prif Rostiwr Coffi a Rheolwr Gweithrediadau
Amdanom ni:
Pobl (Cymraeg) people
Poblado (Sbaeneg) tref, pentref, cymuned, dynoliaeth
Mae’r enw Poblado yn cynrychioli’r math o le hoffwn ni fyw a gweithio ynddo. Rhywle lle mae ansawdd ein cynnyrch yr un mor bwysig â’n perthynas gyda’n cwsmeriaid, cyflenwyr, ac wrth gwrs y cynhyrchwyr eu hunain.
Rydym yn Rhostwyr Coffi Arbenigedd, wedi'i leoli yn Nantlle, un o dyffrynoedd hyfryta Eryri, gyda thîm bach agos o bump. Rydym yn cyflenwi caffis, siopau a bwytai ledled Gogledd Cymru a thu hwnt, yn ogystal â'n gwerthiannau ar-lein (sy'n tyfu'n barhaus) yn uniongyrchol i gwsmeriaid ledled y byd.
Rydym hefyd yn gweithredu caffi (bach iawn) ar y safle ac rydym yng nghanol datblygiad newydd cyffrous ychydig i lawr y ffordd yn Nolydd, gyda chynnydd mewn capasiti ar gyfer cynhyrchu a phrofiad cwsmeriaid. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Poblado Coffi, ac rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac angerddol i ymuno â'r tîm.
Crynodeb o'r Swydd:
Fel Cynorthwyydd Rhostio a Chynhyrchu, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod pob swp o goffi sy'n cael ei rostio yn bodloni safonau ansawdd Poblado Coffi trwy ddilyn proffiliau a osodwyd gan y prif rostiwr. Yn ogystal â sicrhau bod pob archeb wedi'i phacio, ei labelu a'i pharatoi'n gywir ar gyfer cludo. Byddwch yn cefnogi'r tîm rhostio gyda thasgau cynhyrchu dyddiol ac yn cynnal gweithle glân a threfnus sy'n cynnal ein safonau ansawdd.
Mae ein holl staff yn cyfrannu i gadw'r caffi awyr agored yn rhedeg yn esmwyth, heb amharu gormod ar gynhyrchu a phacio. Mae'n bwysig bod gennych rywfaint o brofiad o wneud coffi a gweini cwsmeriaid, gan y byddwch yn gwneud hyn yn rheolaidd drwy gydol y dydd - yn enwedig pan fydd y tywydd yn sych.
Bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn gweithio mewn amgylchedd a all fod yn swnllyd ac yn boeth weithiau - gyda PPE priodol wrth gwrs. Bydd y rôl yn cynnwys rhai tasgau corfforol, gan gynnwys codi a chario, a sefyll mewn gorsafoedd gwaith/peiriannau am gyfnodau hir.
Prif Gyfrifoldebau:
Cefnogaeth Rhostio
Cynorthwyo'r prif rostiwr gyda’r rhostio dyddiol.
Pwyso, labelu a pharatoi coffi gwyrdd ar gyfer rhostio.
Monitro proffiliau rhostio a chofnodi data yn gywir.
Helpu i gynnal ansawdd a chysondeb rhostio trwy gwpanu a gwerthuso synhwyraidd.
Glanhau a chynnal offer rhostio a'r ardal waith.
Rheoli Ansawdd (rhostio)
Cynorthwyo gyda chwpanu a blasu dyddiol ar gyfer sicrhau ansawdd.
Tracio sypiau rhostio a chofnodi nodiadau ansawdd.
Adrodd anghysondebau neu ddiffygion i'r prif rostiwr neu'r rheolwr cynhyrchu.
Offer a Chynnal a Chadw
Cynnal glanhau rheolaidd o rostwyr, melinau a pheiriannau pecynnu.
Adrodd problemau cynnal a chadw yn brydlon.
Dilyn gweithdrefnau diogelwch ar gyfer trin offer a deunyddiau.
Manteision:
28 diwrnod o Wyliau Blynyddol (gan gynnwys Gwyliau Banc)*, ynghyd â chau dros y Nadolig
Gweithio hyblyg o’r Diwrnod cyntaf
Cynllun pensiwn cyfrannol (NEST)
Coffi diderfyn ar ac oddi ar y shifft
Crys(iau)-t am ddim
Cyfleoedd hyfforddi mewnol ac allanol
Digon o gyfle i gynyddu eich rôl a'ch cyfrifoldebau o fewn y busnes
*pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser
Gofynion y Swydd:
Hanfodol
Diddordeb neu brofiad yn y byd coffi arbenigedd
Cyfforddus gyda thrin â llaw; gofynion corfforol fel codi, plygu, a symudiadau ailadroddus; sefyll am gyfnodau hir
Gyrrwr gyda thrwydded lawn (nid dros dro) o'r DU
Sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol
Y gallu i weithio'n effeithlon mewn amgylchedd cyflym
Sylw cryf i fanylion a chysondeb
Siarad Cymraeg
Agwedd sy'n canolbwyntio ar dîm gyda sgiliau cyfathrebu cryf
Dymunol
Profiad blaenorol mewn rôl gynhyrchu, pecynnu, neu warws
Defnydd o gerbyd eich hun
Cyfarwydd â safonau neu weith drefnau diogelwch bwyd
Profiad blaenorol fel barista / gweithio gyda pheiriant coffi
Sut i wneud cais?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Anfonwch lythyr eglurhaol a CV at:
info@pobladocoffi.co.uk