Rwanda - Birembo

Regular price£9.50
/
Shipping calculated at checkout.

Maint
Opsiynau

ROAST

Fferm: Birembo
Lleoliad: Nyamasheke
Uchder: 1503m
Proses: Washed
Amrywogiaeth: Red Bourbon

Nodiadau Cwpanu

Gwin cynnes, grawnwin coch, eirin aeddfed, oren waed, siwgr brown

Mwy o wybodaeth
Efallai bod y coffi hynod o flasus yma o Rwanda yn newydd i'n casgliad premiwm, ond mae'n un rydyn ni wedi bod yn ei fwynhau yn y rhosty ers ychydig fisoedd Bellach, ac rydym nawr bod yn gyffrous i'w rannu gyda chi. Ei flasau cyfoethog a llawn sudd o rawnwin Concord a gwin cynnes oedd cynhwysyn rhagorol y Blend Nadolig 2025, ac rydyn ni'n credu ei fod yn enghraifft wirioneddol ragorol ac eithriadol o'r gorau o'r hyn y gall coffi wedi’u golchi o Ddwyrain Affrica fod - gan frolio'r holl fywiogrwydd, dyfnder a melyster y byddech chi'n ei ddisgwyl gan goffi o Rwanda.
Daw'r coffi yma atom trwy'r gwaith anhygoel y mae ‘Falcon Coffees’ yn ei wneud yn Rwanda i gaffael, uwchsgilio a hyfforddi ffermwyr, tyddynwyr a gorsafoedd prosesu.
Mae Birembo ei hun yn orsaf golchi coffi yn Ardal Nyamasheke, yn Nhalaith Orllewinol Rwanda. Wedi'i sefydlu yn 2013 a'i reoli gan Habinshuti Oreste, mae'r orsaf yn gwasanaethu 503 o ddeiliaid bach cofrestredig sy'n tyfu Bourbon Arabica, gyda chymeriant ceirios blynyddol cyfartalog o 600 tunnell fetrig. Caiff y coffi eu golchi'n llawn gyda 12-15 awr o eplesu gan ddefnyddio chwe thanc eplesu a 132 o welyau sychu uchel. Yn ystod y tymor brig, mae'r orsaf yn darparu tua 70 o swyddi da.
Darperir cefnogaeth a hyfforddiant i gynhyrchwyr yn Nyamasheke, yn ogystal â hyfforddiant gan y ‘Rainforest Alliance’ ar gyfer cynhyrchwyr ardystiedig.

You may also like