Addasiadau Pris Coffi
Rydym yn newid rhai o'n prisiau
Mae 19 mis wedi mynd heibio ers i ni godi ein prisiau ddiwethaf, a thua phum mlynedd cyn hynny. Fel y gallwch ddychmygu, dydy hwn ddim yn rhywbeth rydym yn mwynhau ei wneud! Ond cyn i unrhyw newidiadau digwydd, roeddem am fod yn agored ynghylch pam mae angen i ni eu gwneud.
Fel un o'r cwmnïau rhostio coffi arbenigedd cyntaf yng Nghymru, mae ein gwaith yn seiliedig ar ansawdd, cymuned a cariad am Gymru. Nid yw'r pethau hyn wedi newid, ac nid yw ein cred y dylsai coffi o ansawdd arbennig fod yn rhywbeth sydd ar gael I bawb.
Rydym yn dal i fod yn un o'r cwmnïau rhostio coffi sy'n cynnig y prisiau mwyaf cystadleuol - ac hoffem i hynny barhau.
Felly, beth sy'n newid?
Dros y blynyddoedd diwethaf, efallai eich bod wedi sylwi ein bod wedi cyflwyno ein casgliadau 'Clasurol' a 'Premiwm', ac nid yw'r prisiau ar gyfer y rhain bob amser wedi adlewyrchu'r gwahaniaethau yn y coffi. Yn hytrach na chymhwyso'r un canran o gynnydd i bopeth, rydym wedi edrych yn fanwl ar bob math o goffi. Y canlyniad yw cymysgedd o newidiadau – bydd rhai prisiau'n aros yn union yr un fath, bydd rhai yn gweld cynnydd bach ac eraill yn gweld cynnydd ychydig yn fwy, lle mae'r costau dan sylw wedi codi'n sylweddol. Rydym wedi ystyried y newidiadau hyn yn ofalus iawn ac wedi gweithio'n galed i sicrhau eu bod mor deg ac mor isel â phosibl.
Gallwch weld manylion y prisiau newydd yma:
Clasurol | Pris Newydd | |
250g | 1kg | |
Espresso | £9.00 | £27.00 |
Cartref | £9.00 | £27.00 |
Colombia | £9.50 | £28.50 |
Brasil | £9.50 | £28.50 |
Guatemala | £9.50 | £28.50 |
Sumatra | £9.50 | £28.50 |
Uganda | £9.50 | £28.50 |
Ethiopia Beshasha | £9.50 | £28.50 |
Premiwm | Pris Newydd | |
250g | 1kg | |
Blend Y Barics Holl Tymhorau | £10 -£12.00 | £30 -£36.00 |
Java | £12.50 | £37.50 |
Kenya | £11.00 | £33.00 |
Decaf | £12.00 | £36.00 |
Subscriptions | ||
2 x 250G | £19.00 | |
4 x 250g | £34.00 | |
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar y 19eg o Hydref, felly mae amser o hyd i gael coffi am ein prisiau presennol!
Pam mae prisiau'n newid?
Chwyddiant
Dydy hwn ddim yn bwnc cyffrous iawn, ‘da ni'n gwybod. Ond mae'n un rydyn ni i gyd yn gyfarwydd ag e! Fel pawb arall, rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn costau cyflogau, cyfleustodau, pecynnu, offer a'n costau gweithredu cyffredinol. Rydym yn falch o dalu cyflog sy'n uwch na’r ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’, ac rydym am barhau i wneud hynny. Mae rhai costau cynyddol na allwn eu hosgoi, ac rydym wedi gweithio'n galed i amsugno a lliniaru cymaint â phosibl ohonynt.
Ansefydlogrwydd y farchnad.
Gall prisiau coffi fod yn anrhagweladwy. Mae'r farchnad goffi fyd-eang yn cael ei dylanwadu gan bopeth o'r tywydd a rhagolygon y cynhaeaf i wleidyddiaeth, economeg a galw byd-eang. Gall prisiau newid yn sylweddol – weithiau o 20% neu fwy mewn un wythnos. Dydyn ni ddim eisiau newid ein prisiau bob tro mae'r farchnad goffi yn profi ansefydlogrwydd; er mwyn rheoli hyn, mae angen i ni ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn ein prisiau.
Ansawdd.
Yn syml iawn, rydym angen ei'n prisiau adlewyrchu ansawdd y coffi rydym yn ei gynnig. Rydym yn hynod ofalus ynghylch y coffi rydym yn ei brynu, y cynhyrchwyr rydym yn gweithio gyda nhw a'r safonau rydym yn eu disgwyl gan bob bag sy'n gadael y rhosty. Wrth i'r costau hynny newid, weithiau mae angen i'n prisiau newid gyda nhw.
Coffi Decaf
Gadewch i ni siarad am goffi Decaf. Y math hwn o goffi sydd wedi wynebu'r effaith fwyaf yn y rownd hon o newidiadau; yn onest, nid yw ein prisiau presennol wedi adlewyrchu faint yn ddrytach yw hi i ni brynu coffi decaf o safon.
Hyd yn hyn, rydym wedi cadw prisiau ein coffi heb gaffein mor isel â phosibl yn fwriadol. Credwn na ddylai pobl sy'n dewis yfed coffi heb gaffein orfod cyfaddawdu na thalu pris uwch dim ond am eu bod wedi dewis osgoi caffein. Mae ein coffi heb gaffein bob amser yn cael ei brosesu'n naturiol gan ddefnyddio dulliau fel 'Swiss Water' neu dynnu caffein gan ddefnyddio siwgr, ac mae costau ychwanegol ynghlwm wrth y prosesau hyn. Yn anffodus, mae'r mathemateg yn syml iawn: rydym yn talu mwy amdano, felly mae angen i ni godi ychydig mwy amdano hefyd. Wedi dweud hynny, rydym wedi cadw'r cynnydd mor isel â phosibl.
Yn olaf,
Rydym am eich sicrhau mai dim ond pan fydd gwir angen gwneud hynny y byddwn yn codi ein prisiau.
Rydym yn gwybod bod unrhyw gynnydd mewn prisiau yn effeithio ar ein cwsmeriaid, ac rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus. Mae pob pecyn o goffi rydych chi'n ei brynu yn ein helpu i barhau i wneud yr hyn rydym yn ei garu: cefnogi ein tîm, gweithio gyda chynhyrchwyr gwych ac adeiladu rhywbeth rydym yn falch ohono yma yng Ngogledd Cymru.
Diolch yn fawr iawn am aros gyda ni.
Cofiwch fod ffyrdd o arbed arian o hyd!
- Archebion rheolaidd: arbedwch 5% ar ddanfoniadau cyson
- Tanysgrifiad Pecyn Amrywiaeth: rhowch gynnig ar goffi newydd cyn unrhyw un arall ac arbedwch wrth brynu pecynnau lluosog
- Dewch I weld ni yn y Rhosty; os byddwch yn gwneud y daith i'n cornel fach o Gymru, rydym yn cynnig prisiau is fel diolch am ddod i'n gweld.
Byddwn yn parhau i rostio, yn parhau i hyrwyddo coffi gwych, ac yn gwneud ein gorau i'w wneud mor hygyrch â phosibl i bawb.
Welwn ni chi cyn bo hir!
Poblado Coffi